Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 18 Ionawr 2021
Amser:
09.31 -
12.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11053
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Nick Ramsay AS (Cadeirydd) Gareth Bennett AS Angela Burns AS Vikki Howells AS Delyth Jewell AS Jenny Rathbone AS Llyr Gruffydd AS |
Tystion: |
Karen Armstrong, Cyngor Sir y Fflint Diana Davies, Cyngor Sir Ceredigion Annwen Morgan, Cyngor Sir Ynys Môn Gethin Morgan, Cyngor Sir Ynys Môn Emma Palmer, Cyngor Sir Powys Caroline Turner, Cyngor Sir Powys Alun Williams, Cyngor Sir Ceredigion |
Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton (Archwilydd Cyffredinol Cymru) Tim Buckle |
Staff y Pwyllgor: |
Tom Lewis-White (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Chloe Corbyn (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor a hefyd Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS.
2 Rhwystrau rhag Gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus: Sesiwn Dystiolaeth 5
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Ynys Môn fel rhan o'i ymchwiliad i'r Rhwystrau rhag Gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus.
3 Rhwystrau rhag Gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus: Sesiwn Dystiolaeth 6
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Sir Powys fel rhan o'i ymchwiliad i'r Rhwystrau rhag Gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus.
4 Papur(au) i’w nodi
4.1 Cafodd y papurau eu nodi.
4a Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n gysylltiedig â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (15 Rhagfyr 2020)
4b Cyfoeth Naturiol Cymru: Llythyr gan Clare Pillman, Prif Weithredwr, Cyfoeth Naturiol Cymru (21 Rhagfyr 2020)
4c Rhwystrau rhag Gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus: Ymgysylltu â Phobl Ifanc – Crynodeb
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Rhwystrau rhag Gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.